Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ie, pwy wir," meddwn ina, "Ond mi rydw i am welad Tom Ellis, a sgwn i yn y byd ble mae cal o hyd ynddo fo." "Rhowch i mi fenthyg un o'ch cardia," ebra fo, a mi dynis allan y card cês oedd Claudia wedi rhoid imi Yndolig cynt, a thynis un o'm cardia allan, ac arno fo wedi breintio fel coparplêt-

David Davies,

963, Park Lane.

Sgwenodd Vinsent—

Thomas E. Ellis,

Government Whip,

ar i gefn o.

"Dyna," ebe Vinsent, " Rhowch hwnyna i'r plisman acw ar ben y rhes."

Gwnaethum hyny, ac yn mhen ychydig fynudau gwelwn Cynlas yn ei throedio hi tua'r lobi, a'r plisman yn bloeddio:

"Mr. Ellis!"

Aethum ato fo, a Vinsent wrth fy sodlau. "Dyma chi, Mr. Dafis," ebe Ellis. "Dowch hefo mi.

Hylo, Vinsent! How di dw? Wont tw get in?"

Mae fy mhas gin i tanciw," ebe Vinsent, a ffwr a ni ein tri heibio'r plismyn, gan adael y criw dynion tu ol ini yn sbio'n wirion ar ein hola, ac yn tybied, mae'n siwr gyn i, mod i'n rhyw ddyn mawr ofnatsan cyn basa Membar of ddi Ministri yn dod allan i'm cyrchu fewn ato.

Mi roeddwn i'n blino erbyn hyn na fasa Claudia yno gael iddi gael gwelad, a chael iddi gael rhywbath, ynte, am yr arian oeddwn i wedi wario eisys ar y garej a'r ddau geffyl glâs.

"Rhaid i chwi fy ecsciwsio i, Mr. Dafis bach," ebe Ellis, wedi mynd a fi i fiawn o gyntedd y cenhedloedd i lobi fawr arall lle 'roedd amryw'r byd o bobol, a phawb yn ddiarth