Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Oes yma rai o rheiny heddyw deydwch?" ebe finau yn frysiog, gan gofio gyda llaw mai un o'r pechaduriaid rheiny oeddwn ina hefyd.

"Wel, gadewch ini weld 'rwan. Fel y gwyddoch chi 'toes yna 'run sedd yn wag yn Ngymru heddyw, a 'toes yna ddim ond tair a Thoriaid ynddi nhw, sef Bwrdeisdrefi Dinbach, a Threfaldwyn, a Deheubarth Mynwy."

"Wel felly, mae yna dri o ymgeiswyr Rhyddfrydol, a dim lle i neb arall roid i big i fewn ddyliwn i," heb wybod yn iawn prun ai llawenhau wrth feddwl y baswn i'n cal bod yn rhydd rhag dod allan f' hun, ai ofni cwarfod gwg Claudia wnawn.

Gadewch ini welad," ebe Lloyd George. "Gwelwch y dyn ar ben yr ail fwrdd yna-"

"Oh, ie, Howell Williams? Mi adwaen i o'n reit dda."

"Mr. Williams Idris, os gwelwch yn dda," ebe Vinsent.

"Ie, ynte? mi glywis i fod o am newid i enw. Ond beth am dano fo?"

"Wel, fo ydi'r candidet dros Fwrdeisdrefi Dinbach, wedi cal i ddewis gan y Blaid."

"Gwd bei Dinbach," meddwn i yn fy nghalon,-a chan gofio fod y Seilam yno, ni chollis ddim dagra.

Ond cyn i Lloyd George gal amser i ddeyd chwaneg, dyma gloch yn canu yn rhwla, a hanar y bobol ar eu traed fel dynion o'u coia, a ffwr a nhw.

"Edrych ar ol Mr. Dafis tan ddo i yn fy ol, Vinsent," ebe Lloyd George, a ffwr ag ynta a darn o fara menyn yn i law fel hogyn yn rhedeg i'r ysgol ar ol bod yn hwyr i frecwast. "Difishyn Bel, Mr. Dafis," ebe Vinsent, ac er na wyddwn pwy odd Mr. Difishyn Bel fwy na'r dyn a'r baich drain, 'toeddwn i ddim am i Vinsent gael gwbod hyny. Mi ddylis i, wrth gwrs, mai'r dyn redodd ar ol Lloyd George oedd o.