Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Sut hyny?" gofynai Vinsent, a'i bensil a'i bapur allan. A dyma finau'n glustiau i gyd, rhag imi golli dim o'r hanes. Wel, clos shev ofnadwy oedd hi, dim ond 21 o fajoriti, a'r 21 hyny bob yr un yn Gymry! Sbiwch yma. Dyma restr o'r aelodau Cymreig yn y difishyn yna[1]:—

PRESENOL ABSENOL
Mabon, Rhondda Osborne Morgan, Dinbych
Allen, Penfro Pritchard Morgan, Merthyr
Burnie, Abertawe T. P. Price, Mynwy
Davies, Penfro Randell, Gower
Ellis, Meirion Syr Edward Reed, Caerdydd
Sam. Evans, Morganwg Bryn Roberts, Eifion
Frank Edwards, Maesyfed Herbert Roberts, Dinbych
Y Major, Llanelli Samuel Smith, Fflint
Thos. Lewis, Sir Fon Alfred Thomas, Morganwg
Herbert Lewis, Sir Fflint Syr Hussey, Abertawe
Lloyd George, Caernarfon
Maitland, Brycheiniog
Lloyd Morgan, Caerfyrddin
Rathbone, Arfon
Stuart Rendel, Maldwyn
Bowen Rowlands, Aberteifi
Spicer, Mynwy
Abel Thomas, Caerfyrddin
D. A. Thomas, Merthyr
Warmington, Mynwy
Arthur Williams, Morganwg
—21— —10—
  1. Mae yr hunangofiant yn cynwys nifer mawr o restri cyffelyb i hon o bleidleisiau yr Aelodau Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin. Er mor ddyddorol allasent fod ar y pryd y cymerasant le, mae'r dyddordeb hwnw i raddau pell wedi cilio os nad wedi diflanu erbyn hyn. Rhoddir y rhestr hon i fewn am y dyddordeb hanesyddol sy'n perthyn iddi fel y rhaniad cyntaf ar y Tŷ wedi i Dafydd Dafis groesi'r trothwy; ac, fel y dywedai Mr. Lloyd George, mai'r Aelodau Cymreig gadwodd einioes Gweinyddiaeth Gladstone y noson hono. Ni roddir y gweddill o'r rhaniadau os na fydd rheswm arbenig dros wneud hyny.—GOL.