Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dydd, sy'n mynd i ymladd y Milwriad Morgan am South Monmouthshire."

"Gwd bei South Monmouthshire, a dyn helpo Claudia," medde'n ngalon ina'n ddistaw bach. "Dyna'r cwbl ynte, ddyliwn i?" ebe fi'n uchel, gan deimlo'n llawen, braidd, fod y pwysau wedi mynd o'r diwadd oddiar fy meddwl i. "O'r anwyl, naci!" ebe Vinsent. "Gwelwch y dyn byr joli acw gyferbyn a chwi, yn siarad fel pwll tro? Dyna D. H. Evans, Llundain."

"Y drepar yn Oxford Street?" ebe fi.

"Ie siwr. Wel, mae o'n son am sedd Syr Hussey Vivian."

"Ond tydi Syr Hussey ddim wedi marw, ydi o?

"Nac ydi, ond mae o'n son am fynd i'r wlad well, hyny ydi i Dŷ'r Arglwyddi, ac mae D. H. Evans ar y lwc owt am i le fo. Ond ma nhw'n son am Isaac Evans hefyd, y coliers ejent, fel candidet, pan ddaw'r lle yn wâg; a'r alcanwyr am Tom Phillips, ysgrifenydd yr Undeb; ac ma'r Librals yn son am Williams, Maesgwernen; ac felly mae yna ddigon o gandidets, a deyd y lleiaf."

Wel, dyn anwl! yda'n nhw'n chwilio am ddyn cyn bod sicrwydd yr eith y lle yn wâg deydwch?"

"Wel, cewch farnu. Dacw Alfred Davies, Hampstead, ac Allen Upward, Caerdydd, a Mr. Jones, Rhymney, a'u llygid ar sedd Prichard Morgan, pwr ffelo. A dacw Gwilym Evans, ac Ellis J. Griffith, a hanar dwsin o rai eraill yn weitied am ryw dro ar olwyn rhagluniaeth yn eu ffafr nhw!"

Cyn i mi gael amser i ateb dyma'r stafell yn llenwi drachefn a Lloyd George yn ei ol. "Wel dyna chi!" ebra fo. "Iyng Wêls ffor efar. Fe fase Mr. Gladstone allan can siwred a ngeni oni bai am Iyng Wêls heddyw!