Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wrth gwrs, mi ddois i'n gallach wedi hyny, ac i adnabod Difishyn Bel cyn gystlad a'r un Aelod Seneddol o honyn nhw i gyd. Nid dyn mo hono fo, ond cloch, neu yn hytrach clychau, sy'n swnio yn mhob ystafell yn y Tŷ, pan fo difishyn neu ranu'r Tŷ yn mynd i gymeryd lle.

Wyr neb ddim pa awr na pha fynud y rhenir y Tŷ ar ryw gwestiwn o bwys, felly rhaid i bob Aelod fod o fewn cyrhaedd pan fydd galw am ranu. Ond gormod o dreth ar amynedd hyd yn nod Aelod Seneddol ydi disgwyl iddo eistedd i wrando ar bob pregeth a draddodir gan bawb o'i gyd-Aelodau ar bob cwestiwn a ddaw ger bron. Felly, tra bo'r ddadl yn mynd yn mlaen, gall yr Aelodau fynd ar wasgar lle bo'r ysbryd yn eu harwain, rhai i'r leibrari, rhai i'r smocingrwm, rhai i'r tirwm, rhai i'r teras, ond pawb o fewn cyrhaedd galw. Pan fydd eisio rhanu'r Tŷ, cyffyrddir electric bel sy'n swnio yn mhob ystafell, a chan na chaniateir ond dau fynud i bawb fod yn eu lle i fotio, dyna lle mae rhedeg, a dyna pam rhuthrodd Lloyd George ffwr a'i frechdan yn ei ddwrn ar y Difishyn Bel. "'Rwan," ebe Vinsent wedyn, "dyma gyfle braf i chi gal i gweld nhw i gyd. Gwelwch y parti llawen acw, a'r dyn yn deyd stori ddigri wrtha nhw? Dyna Mr. Martin Woosnam, cyfreithiwr o'r Drefnewydd, sy'n debyg o gal i gynyg fel candidet Bwrdeisdrefi Maldwyn." "Ie, siwr," ebe fina, gan feddwl y rhaid imi ffarwelio â Maldwyn hefyd.

A gwelwch y dyn bach acw, haner person haner sgweiar? Dyna Mr. Humphreys Owen, ac ma ynta yn cal siarad am dano fel candidet am yr un sedd."

"Dau fochyn yn yr un cafn," ebe fi.

"Reit iw âr," ebe Vinsent. "A gwelwch y bachgen main yna, sy'n dipyn o swel? Dyna Mr. Clifford Cory, o Gaer-