Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD V.

GYDA'R MERCHED.

Sut i wynebu Claudia—Cofio'r tric â mam—Ffoi i'r gwely—Pryder Claudia ac athrod Sarah—Tranoeth—"Y gwýr" yn erbyn y byd—Cynddylan, y Gymdeithasfa, a'r aelodau—Humphreys Owen a'r Esgob—S. T. Evans a'r Briodas Frenhinol.

Wel, 'toedd arna i ddim rhyw lawar iawn o frys i fynd gartra chwaith. 'Toedd meddwl am gyfarfod Claudia, a rhoid cyfrif o'm goruchwyliaeth iddi, a sefyll crosegsamine— shyn o'i blaen, a chydnabod wrthi hi na 'toeddwn i ddim wedi son yr un gair wrth Tom Ellis na'r un enaid byw am fy mharodrwydd i wasanaethu "fy ngwlad, fy iaith, fy nghenedl" yn y Senedd—'toedd meddwl am hyn, meddaf, ddim yn gwneud y syniad o edrych yn ngwyneb Claudia lawn mor hyfryd ag arfar. Mi roeddwn yn teimlo o betha'r byd fel 'rwyn cofio i mi deimlo ar's talwm pan yn hogyn bach gartra. Mi roeddwn ryw dro wedi cael pâr o esgidiau newydd (ac nid yn aml yn f' hanes y digwyddai hyny), a siars gan fy mam i ofalu am danyn nhw (yr hyn oedd yn beth cyffredin ddigon),—ac wedi mynd ar f' union i'r afon i bysgota, ac wedi gwlychu fy nhraed, a'r sgidia newydd yn llawn dwr. Mi rydw i'n cofio'n reit dda sut y bu arna i'r pryd hwnw. Mi rosis allan o gwmpas y tŷ tan oedd hi yn dywyll pitsh; ac yna, wedi sbio drwy'r ffenestr, a gwelad bod mam yn y parlwr, mi eis yn ddistaw bach drwy ddrws y cefn i fiawn i'r gegin; tynais fy sgidia'n dawel, a ffwr a mi i'm gwely. Mi ddihangais i felly'r noson hono.