Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond boreu tranoeth-oh ie, boreu tranoeth!

Wel, gan gofio'r pethau hyn mi ddylies, gan i bod hi'n gynar eto,-dim ond wyth o'r gloch, y baswn i'n taflu'r dydd drwg ychydig oria'n mhellach drwy roi tro i rywla.

Ond yn sydyn mi gofis fod Claudia wedi myned i welad Mrs. Wynford Philipps, ac y basa'n debyg o aros yn hwyr yno, ac mi feddylis y gallwn chwara'r un tric a hi ag a wnes a mam ar's talwm. Felly codais fy llaw ar y cab cynta welis, gan orchymyn i'r gyrwr ddreifio fedra fo i Park Lane, gan roi hanar coron dros ben iddo fo am frysio.

Cyrheiddis No. 963 Park Lane, ac i miawn a fi. Gelwais y forwyn:

"Sarah," eba fi, "deydwch wrth y'ch meistras mod i wedi blino aros iddi, ac wedi mynd i'm gwely."

"Ydach chi ddim reit iach meistar?" gofynai Sarah yn bryderus. Hogan o Gymraes glên iawn ydi Sarah

"Ydw yn tad, hyny yw nac w wir," ebe fina'n dra dyryslyd, a ffwr a mi gan adal Sarah'n credu mod i'n hanar meddw.

Ond er mynd i'm gwely, 'toedd dim cwsg yn agos i mi. Yno lle bies i yn gwrando ar bob swn, gan ddisgwyl clywed Claudia'n dod adra bob mynud. Ac o'r diwedd, pan ar haner nos, dyma hi i fiawn, a chlywn ei llais yn yr hôl.

"Iwar master is not bac, ei sypos, Sarah," ebe hi.

"Ies, mem," ebe hono wirion, "hi com bac owars ago, and went tw bed strêt."

"Tw bed!" ebe Claudia. "Wos hi il?"——ac O! mi roedd tôn i llais hi mor dyner nes mynd i nghalon i, a bum ar fedr neidio o'r gwely, a mynd lawr i'r grisiau ddêr and dden!

"No mem, ei dont thinc hi wos egsactli il, byt——"

"Byt hwat?"

"Byt ei thince, mem, hi myst haf met sym ffrends, and—"