Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Spîc owt, tsheild!"

"Wel, mem, hi myst haf drinc a drop tw mytsh!"

"Sarah! How dêr iw! Hy! Drync, indîd! Iw myst haf bin drinking iwarselff tw thine Mr. Davies wd so ffar haf fforgotn himselff! Hiar! Get mî mei bedrwm candlstic. At wyns!"

"Byt wont iw plis haf sym sypyr, mem?" yn syn, ac eto'n grynedig.

"Dw iw thine Ei cwd têc sypyr widd iwar master il?

Eim syrpreisd at iwar thotlesnes, Sarah. Gif mi ddi candl. Ei myst sî how hi is at wons!"

Wel dyma hi, yntê! Beth i neud 'rwan oedd y cwestiwn "Toedd gin i ddim ond un o ddau beth i neud-cyfaddef y cwbl, neu gogio cysgu. Penderfynais ar yr ola. Daeth Claudia i fewn ar flaena ei thraed, gan ddal ei llaw rhwng llewyrch y gola a mi, ac yn mlaen a hi at ymyl y gwely. Teimlwn ei phresenoldeb, a gwelwn a llygad y meddwl drwy amrantau cau llygad y corph y wyneb pryd- ferth a'r olwg bryderus a thosturiol, ac mi rodd yn galad arna i beidio troi ati a thaflu'm breichiau am i gwddf, a'i chusanu hi.

"David!" sisialai, fel miwsig awelon balmaidd Llanidris, "David diar, ar iw sliping?"

Ond 'toeddwn i ddim yn mynd i'w hatab hi, gwesgais fy llygada'n dynach nag ariod, a dechreuais chwyrnu fel mochyn.

Aeth Claudia i'r drws.

"Sarah," ebe hi, "hi's sliping neisli. Ei thinc Eil tec a bit of sypyr now," a ffwr a hi, a chyn iddi ddod yn i hol mi roeddwn i wedi cysgu yn ddi lol.

Deffrys o'i blaen y bora a chodis yn ddistaw bach, ac i lawr a mi cyn bod un dyn byw yn tŷ wedi troi yn i