Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wely; ac wedi gwisgo am dana, allan a mi ac i lawr i'r llaethdy filldir oddi yno i welad yr hogia'n rhanu'r llefrith. Mi fyddwn yn gneud hyny weithia, ac felly mi wyddwn na fasa Claudia'n dychryn. Cymis frecwast yno o lefrith a bara menyn, gan ddianc hyd hyny heb wynebu Claudia.

Ond dechreuis feddwl beth gwell oeddwn o gilio fel hyn? Nis gallwn fod am byth allan o gyrhaedd Claudia. Rhaid odd cwarfod â hi yn hwyr neu'n hwyrach; ac felly mi benderfynis fynd ar fy union yn ol ati a chael y cwbl drosodd ar unwaith. Pan fo raid tynu dant, gora po gynta i wneud. Tydi meddwl ymlaen llaw am y gorchwyl yn lleihau dim ar y boen.

Ond mi wenodd Rhagluniaeth arna i'n fwy na f' haedd- iant. Erbyn cyrhaedd gartra mi rodd yno rhyw lêdis hefo Claudia, ac yn aros i ginio; a chadd hi ddim cyfle i'm galw i gyfrif. Chafodd hi yn wir ddim amsar i neud dim yn gyfrinachol, ond deyd wrtha i y'n bod ni'n dau i fynd allan yn y garej ar ol cinio. Felly y bu, ac yn y garej y cafodd hi gyfla gynta i ddeyd gair wrtha i.

"Wel David, and hwot sort of a teim did iw haf last neit? Iw cem hom erli?"

"Do, galon. Mi roeddan yn brysur ofnatsan yn y Tŷ, a lle annifyr ydi o i aros yno fo a gwneud dim. Toes dim seddi gweigion yn Nghymru ar hyn o bryd, ac mae ymgeiswyr yn barod eisys am y rhai sy'n debyg o fynd yn rhydd cyn hir."

"Ddat's ol iw no. Dlers Swansea District ffor instans.'

"Ie," meddwn, yn falch o'r cyfla i ddangos y modi'n gwbod rhywbath hefyd. "Mae Syr Hussey yn mynd i Dŷ'r Arglwyddi, ac mi fydd yno amser difrifol yn y man. Mae'r ymgeiswyr fel eryrod, wedi arogli'r gelain o bell."

Chwarddodd Claudia.