Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mi ddylasach chi fod yn fardd, David. Rhaid imi drefnu iddyn nhw'ch gneud chi'n fardd yn y Steddfod nesa. Ond 'rwan mae gen i gyfrinach i ddeyd wrtha chi, dau neu dri o honyn nhw o ran hyny. Mae Mr. Maitland yn mynd i dynu nol o Sir Frycheiniog. Ond blaw hyny mae seddi erill ar fynd yn weigion-o leia un yn y Gogledd ac un yn y De. Ac yn y ddwy etholaeth mi fydd eich gwybodaeth o Gymraeg yn help ofnatsan i chwi. Mae un Aelod o Gymru 'n mynd i gael ei wneud yn Lord,[1] ac un arall yn Judge. Ond mi gewch glwad mwy gyn i eto. Ddis carej dys jolt so!"

"Jolted o a'i groeso," ebe fi yn fy meddwl, "os ceidw hyny Claudia rhag dod ar fy nghefn i am neithiwr.

"Oh, ies, dder's anyddyr thing Ei wont tw tel iw abowt. Ei so Mrs. Wynford Philipps last neit as Ei told iw. Sytsh a neis litl wman. And oh! sytsh a tôcer! Iw nefer herd won leic her."

"Mi wn i am un well na hi," ebra fina, gan maflyd yn ei llaw hi, a'i gwasgu.

"Oh iw old fflatyrer!" ebe hithau, gan fy nharo yn ysgafn ar fy moch a'i ffan. "Ond dyma'r hyn oedd arna i eisio i ddeyd wrtha chi. Tydi Mrs. Wynford Philipps ddim yn gwybod Cymraeg, ac mi roedd mewn byd garw am moto Cymreig i'w roid fyny yn y stafell lle mae cwarfod y merched i gael ei gynal heno. A be ddylia chi. Fi ddaru ffeindio un iddi! Mi roeddwn i'n falch eich bod chi wedi gwneud imi ddysgu chydig o Gymraeg! Mi gewch chi welad mod i wedi taro ar moto ffyrst clas i'r amgylchiad!"

"Be ydi o?"

  1. Claudia oedd y cynta i gael sicrwydd am ddyrchafiad (agoshaol y pryd hwnw) Mr. Stuart Rendel i Dŷ'r Arglwyddi. -GOL.