Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mi gewch welad trosoch eich hun. Dyma ni wedi cyrhaedd."

A chyda'r gair dyma'r cerbyd yn sefyll, a ninau yn disgyn i'r palmant, ac i fyny'r grisiau i'r stafell. Y cynta peth welis i oedd llythyrena mawrion hanar ar draws yr ystafell fel hyn:

"Y GWYR YN ERBYN Y BYD."

Bum just a chwerthin allan.

"Now, is'nt ddat neis ?" ebe Claudia yn fy nglust.

Yda chi'n gwelad y camgymeriad yno fo?" meddwn. "Hwot?" ebe hithau.

Mi rydach wedi ei wneud o i ddarllen-The husbands against the world' yn lle 'The truth against the world,"" ebe fina.

"Oh, ddat's ol reit. Dyna'r hyn oeddwn i am ddeyd welwch chi. Mi rydw i am roid fy ngŵr i i sefyll yn erbyn y byd gan nad sut."

Ond 'toedd dim amser i siarad. Dyma Claudia yn fy introdiwsio i Mrs. Wynford Philipps, Mrs. Humphreys Owen, Mrs. Herbert Lewis, Miss Bowen Rowlands, Mrs. Williams Idris, a haner dwsin o ledis erill, a chyda hyn dyma a rai o'r gwŷr hefyd yn dod fyny.

Ddat atac of Cynddylan on Herbert Lewis wos rili tw bad," ebe un ohonynt, ac yna daeth stori Cymdeithasfa Lerpwl allan, ac hanes ymosodiad Cynddylan ar yr aelodau Cymreig, ac yn enwedig ar Herbert Lewis am i fod o wedi rhoid i fyny swydd Trysorydd y Gronfa Genhadol.

"Yn 'toedd o'n deyd mai am y'ch bod chi'n Fethodus y cawsoch chi'ch hethol?" gofynai un o'r ledis i Herbert Lewis. Wel oedd, yn reit siwr. Mae'n ddigon drwg fod erill yn deyd pethau disail felly am dano ni, heb i ni gal 'mosod arno ni yn nhŷ ein caredigion," ebe Herbert Lewis-bach- gen ifanc clen ydi o hefyd.