Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Buodd Cynddylan yn y'ch helpio chi yn y lecsiwn deydwch?" gofynai Miss Bowen Rowlands.

"Na, choelia i fawr," ebe Herbert Lewis. "Ond ty di o'n Iwnionist garw, ac ond tydi o wedi bod yn stympio r wlad dros yr Iwnionists, ac yn ysgrifenu i'r Western Mail am dano ni fel Ymneillduwyr a phob dim!"

"Twt lol," ebe Tom Ellis, oedd wedi dod fyny tra 'roedd y lleill yn siarad, "Pwy dybiach chi sy mor ffol a gwrando ar Cynddylan?"

"Y gwir am dani," eba fina, gan ddeyd rhwbath er mwyn plesio Claudia, yr hon oedd yn pinsio fy mraich yn awgrymiadol. "Tipyn o impidens yn Cynddylan oedd deyd dim ffasiwn beth. "Tae o'i hun wedi gwasnaethu Methodistiaeth neu i wlad hanar cymin a'r rhai mae o'n ddwrdio, mi fasa gynddo rhywbath y tu cefn iddo," a deallais wrth gymeradwyaeth y rhai o gwmpas y mod i wedi taro'r hoelan ar i phen y tro yma.

"Ddat wos feri wel don indîd, David," ebe Claudia yn fy nghlust, a chan wasgu fy mraich. "Iw'l hold iwar ôn widd ddi best of ddem in ddi Hows iet!"

"Ei wos feri glad tw si iw standing yp ffor ddi Welsh Membars agenst won of ddi Methodist, ddo Ei sypos iw ar a Methodist iwarselff, Mr. Davies," ebe Mrs. Humphreys Owen. "Mr. Humphreys Owen, olddo a Tshyrtshman, is, as iw no, engejd in a controfersi widd ddi Bishop of St. Asaph."

"Ies," ebe Claudia, "Ei thinc wi meit parodi Buckingham's epitaff on Charles ddi Second, and sê of ddi Bishop:—

'Here lies our fighting Bishop-ling
Whose "facts" no man relies on,
Who never did a foolish thing,
And never said a wise one!'"