Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ha! ha! ha! Mei diar Mrs. Davies, iw ar a jiniys! Ei myst ripît ddat tw Mr. Humphreys Owen. Hi wil bi dileited widd it!"

A galwodd ef atom a dywedodd y penill wrtho fo, a chwarddodd yntau.

"Feri gwd, feri gwd indid," ebe fo. "Byt Ei dont egsactli sî ddi aposeitnes of ddi therd lein in ddi epigram. 'Who never did a foolish thing.'

For mei ôn part Ei myst sê Ei thine hî has bîn a feri ffwlish man ol thrw."

"Maddeuwch imi, Mr. Humphreys Owen," atebai Claudia, ac mi wyddwn wrth dôn ei llais hi fod gyny hi rwbath i atab iddo; "ond tyda chi ddim wedi edrach yn ddigon dwfn i'r matar. Ai gweithred ffol oedd gwâdd Principal Edwards i arwain y Methodistiaid at Gyd-undeb Cristionogol yn Nghymru? Ai gweithred ffol oedd gosod dadleuwr mor alluog a John Owen yn Ddeon Llanelwy wrth law iw facio fo fyny yn ei frwydrau? Ai gweithred ffol oedd ceisio cyffroi eiddigedd sectarol yr enwadau eraill yn erbyn y Methodistiaid, ac felly i wanhau galluoedd y gelyn? Na, coeliwch fi, mae ei weithredoedd oll yn dangos cyfrwysdra'r sarff; eithr pan yr agora ei enau y dengys efe wirionedd dihareb Solomon ynghylch y ffol tra y tawo."

"Ies, ies, cweit so!" ebe Mr. Humphreys Owen, heb fedru dallt yn iawn chwaith.

iawn chwaith. "Ond be ddylia chi am y cynyg i roid presant cenedlaethol o'r Dywysogaeth i'r Duc York a'r Dywysoges May? Mi rydw i'n credu f' hun mai Cynghorau Sir Cymru ddylasa fod wedi cael cychwyn hefo'r peth."

"Mi rydach yn iawn, Mr. Humphreys Owen," atebai Claudia. "Mae gyn i bob parch i Syr David Evans, ond yn sicr i chi, chi yn Nghymru ddylasa fod wedi cael symud gynta."