Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ei am glad iw thine widd mi in ddi mater," medde fo. "It is so encyrejing iw no tw ffeind ddat ol ddi most intelijent, Ei meit sê ddi most intelectshiwal pîpl ar of owar opinion," a bowiodd ei hun ffwr.

"Be ddeydwch chi, Mistar George," eba fi wrth Lloyd George, ddoith fyny a dyn aristoctrataidd yr olwg arno, a gwyneb a thrwyn digon main i dori i ffordd drwy glawdd o rwystrau.

"Am y presant i'r par ifanc?" ebe fo. "O, gofynwch i Mr. Sam Evans yma. Mae o'n dotio ar y teulu brenhinol er amsar gwledd yr Arglwydd Faer y flwyddyn ddweutha."

"Nonsens!" ebe Mr. S. T. Evans. "Pwy sharad dwli wyt ti, George? Presant wir! Mi dybia i'n bod ni fel treth-dalwrs yn rhoi digon o bresenta iddyn nhw bob blwyddyn. Os am wneud rhwbath, pam na bae nhw'n casglu i sefydlu ysgoloriaethau i fechgyn tlawd yn y colegau? Basa hyny'n rhyw gredid iddi nhw. Ond am roi help i dynu rhagor o arian o bocedi pobl dlodion i fagu segurwyr i fyw ar foetha, nonsens i gyd yw e," a ffwr ag yntau a'i wyneb fel y galchan.

Dyna'r tro y deuthym i ddeall gynta fod merched eraill 'blaw Claudia'n teimlo dyddordeb mewn gwleidyddiaeth; ac wrth wrando ar Mrs. Wynford Philipps a Mrs. Williams Idris, ac erill o honyn nhw, yn siarad a Claudia, mi ddechreuais feddwl fod anhawsderau a pheryglon Aelodau Seneddol yn debyg o gynyddu yn hytrach na lleihau yn y dyfodol. Mae plesio dynion yn orchwyl calad yn y byd yma, ond mi fasa plesio'r merched i gyd yn amhosibl. Po fwya oeddwn i'n feddwl am y peth lleia i gyd oeddwn i'n leicio'r rhagolwg o fynd yn A.S. ar gais Claudia na neb arall.