Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

METHODIST YNTE CYMRO.

Barn fewyrth am Claudia—"Gwraig a Gŵr"—Y ffeit hefo Claudia—Pam rwy'n Fethodist—Abel Thomas a Sir Gaerfyrddin—Cwestiwn y Dadgysylltiad—Lady Henry Somerset—Gwaith imi eto.

"David," ebe Claudia y noson hono ar ol mynd adra, "David, Ei am glad iw haf cept yp iwar conecshyn widd ddi Methodists."

"Be sy yn i phen hi 'rwan?" ebe fina yn fy meddwl. Canys mi roeddwn i'n cofio'r ffeit fuodd hi rhwng Claudia a mina flynydda'n ol ar y pen hwn. Wedi i ni ei gneud hi yn o lew hefo'r fusness llaeth, ac i Claudia rhoid y gora i'r godro a'r llenwi tinia, ac yn mhell cyn i mina ddechreu cadw'r garej a'r ddau geffyl glas, ni fuodd Claudia yn y moddro i'n arw eisio i mi adael y capel a mynd i'r eglwys. Ond wnawn i ddim. Mi fydda i fel rheol yn rhoid ffordd i Claudia hefo pob dim. Mae y rhai sydd yn ein hadwaen ora yn gwybod hyn yn reit dda.

Mi gofia i byth am air hen ewyrth imi o'r wlad y buom yn treulio wsnos hefo fo yn i fferam yn sir Drefaldwyn acw. Dyna'r tro cynta rioed iddo weled Claudia, ac mi roedd y ddau'n ffrindia garw cyn madael.

"Dafydd," ebra fo pan oeddan ni yn ffarwelio a fo ar ben yr wsnos, "Dafydd, wyddost ti be?"

"Wel, na wn i yn siwr," ebra fina.

"Wyddost ti be fydda i'n meddwl am danat ti a'r ledi yna sy gen ti'n wraig?"