Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wel na wn i yn siwr," ebra fina wedyn.

Wel, meddwl fydda i nad gŵr a gwraig ydach chi."

"Be ddeydsoch chi, f'ewyrth?" ebra fina mewn dychryn; a dechreuis feddwl am y stori hono gan Wilkie Collins y gnaeth Claudia i mi ei darllan hi allan iddi hi pan roedd hi yn dysgu Sasnag imi ars talwm-y stori hono chi wyddoch lle mae dynes yn wraig ac eto heb fod yn wraig hefyd, 'Man and Wife' ynte ydi'i henw hi? A dechreuis feddwl tybed y galla fod rhyw gamsyniad wedi cael ei wneud genym hefo'r briodas; ac mi dorodd y chwys oer allan trosw i wrth feddwl y galla Claudia falla beidio bod yn wraig imi wedi'r cwbl ys leica hi. "Be ddeydsoch chi, f'ewyrth?" ebra fi'n grynedig felly.

"Deyd ddaru mi na 'toeddach chi'ch dau ddim yn ŵr a gwraig."

"Wel be yda ni ynta?" gofynis.

"Gwraig a gŵr," ebe fo'n swta, a ffwr a fo, a deallis mai dyna i ddull o ddeyd mai Claudia oedd ben. Tae o'n Sais mi fasa wedi deyd 'Ddi grei mêr is ddi beter hors,' ond gan mai hen Gymro gonast oedd o, 'Gwraig a gŵr yda chi,' ebra fo. Ac felly'n wir yr oeddan ni, ac felly rydan ni eto o ran hyny ar bob peth ond mater y capal. Fynwn i er dim, hyd yn nod i blesio Claudia, fynwn i dim roid y capel i fyny a mynd i'r eglwys.

"Toes gyn i ddim cydymdeimlad â'r bobl rheiny sy'n petroneisio crefydd, ac yn tybied eu bod nhw'n gneud ffafor â'r Brenin Mawr wrth fynd i'r capel. Mi fedar o wneud yn well hebddyn nhw nag y medran nhw, druain bach wneud hebddo fo. Pan fydda i'n gwelad dynion felly'n anghofio'r graig o'r hon y'u cloddiwyd, mi fydda i'n tybied mai piti oedd i'r Brenin Mawr na neb arall gymyd trafferth i'w cloddio nhw o gwbwl.