Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Toedd neb wedi dylanwadu ar y meddwl i chwaith, a 'toedd neb wedi deyd wrtha i am fod yn ffyddlon i'r capal. Ond glynu 'roeddwn i wrth y capal, ac wrth y Methodist- iaid o wir gariad. Yn y capal y ces i medyddio, ac yn y seiat y dygwyd fi i fyny, ac yno y bum i'n deyd adnoda, ac yn adrodd pwnc, ac yn dysgu'r Cyffes Ffydd, ac yno y cefis i'r bara a'r gwin y tro cynta riod, ac mi adwaenwn naw o bob deg o bregethwyr yr enwad, David Charles Davies (cyferddar imi oedd o hefyd ran hyny) a Thomas Charles Edwards (a tydw i ddim yn credu'r stori ma'n nhw'n ddeyd 'rwan i fod o am gael i neud yn Gardinal tros Gymru gan y Pab yn Rhufen), a Mathews y Weni, a Tomos Levi, a Griffith Ellis Bootle, a Dr. Saunders, a Dr. Owen Thomas, a Joseph Thomas Carno, a Henry Rees yn ei amser,-coffa da am danynt a'r holl griw o honyn nhw. Mi fuon bob yr un o honyn nhw yn ein tŷ ni lawar tro yn cal llety ffordd- olion. Ac mi rodd meddwl am dori â'r rhai hyn, ac â'r holl gysylltiada anwyl yn fwy na fedrwn i odda. Ac felly, ar waetha Claudia a phob dim, fynwn i ddim troi. Fedrwn i yn y myw anghofio'r graig o'r hon y'm cloddiwyd, ac mi fynis i aros yn Fethodist, a mynd i'r capal fel cynt, ac mi eis mor bell a deyd wrth Claudia y cai hi fynd i'r eglwys ai chroeso, ond na ddown i ddim cam hefo hi. Wel moni ddaru hi am Sul neu ddau, a nghalon ina'n brifo wrth fynd i'r capal hebddi. Ond o'r diwadd mi ddaeth i'w lle, ac yn ol i'r capal gyda mi, ac yno lle'r yda ni wedi bod er hyny, ac yno lle byddwn ni mwyach tra bo ni byw. Methodist ces i fy ngeni â'm magu. Methodist fydda i byw a Meth- odist fydda i farw,-a mi geith y Meistar Mawr setlo be fydda i wedi hyny.

Ond 'toedd Claudia ddim rywsut wedi dygymod yn dda a hyn chwaith. Fel y deydais i eisys, Sasnes ydi hi, heb