Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wybod dim Cymraeg ond a ddysgodd genyf fi-fel nas gwn inau nemawr ddim Sasnag ond a ddysgis gyni hi. Mi ddaeth yn fwy boddlon i aros yn y capal wedi i mi gal 'y ngneud yn flaenor, ac yn drysorydd y capal, ac yn gadeirydd y Cyfarfod Misol, a rhyw dipyn o anrhydedd felly. 'Toeddwn i'n hitio dim botwm corn yn y petha hyn f' hun, ond fel roeddan nhw'n plesio Claudia,-ond gan y mod i'n gwbod i bod hi wedi aberthu llawar wrth lynu gyda mi wrth y capal, fyddwn i byth yn gwrthod rhyw dipyn bach o swydd neu o anrhydedd gan y mod i'n gwbod ei bod hi'n leicio i mi'u cael a'u cymyd nhw.

Ond teimlwn yn anesmwyth hefyd i'w chlywad hi'n deyd bod hi'n dda ganddi mod i wedi aros yn Fethodist-canys gwyddwn fod rhwbath y tu ol i hyny yn rhywla.

"Ies, David," ebe hi drachefn, "Ei am glad iw haf styc tw ddi tshapel and ddi Methodists ôl thrw. Iw wêr reit and Ei wos rong affter ôl."

"Ies, galon," ebe fina'n ymholiadol fel tasa.

"Ies, David, it is best tw bi consistent affter ôl. Mi rydach chi'n cofio'r holl helynt gafodd Abel Thomas ar's talwm i fynd yn aelod dros Sir Gaerfyrddin am fod pobol yn deyd ei fod o wedi troi ei gefn ar y Batis. Pan feddylio ni, tydi ddim yn dda gyn neb am y rhai sy'n troi eu cefnau ar hen gysylltiadau. Fydd ddim yn dda gan yr hen gyfeill- ion am danyn nhw, ac mi fydd y cyfeillion newydd yn eu drwgdybio hefyd. Fel y jacado hwnw wisgodd blu'r paen ar's talwm: fynai'r paenod mo hono fo, a phan geisiodd fynd nol at y jacadôs fel cynt fynai rheiny mo hono, ac mi dorodd. yntau ei galon. Ac wrth droi'r peth drosodd yn fy meddwl, mi ddois i deimlo mai garw o beth fasa petai rhywun yn medru taflu i'ch danedd chi eich bod chi David, erioed wedi troi'ch côt."