Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dyna fo, nghalon i," meddwn ina.

"A blaw hyny," medda hithau'n mhellach, "mae gyno ni garej and pêr 'rwan, a phytai chi'n troi'ch cefn ar y capal mi fasa pobl yn deyd mai am fod gyno ni garej and pêr yr oeddan ni'n gneud."

"Ie," ebra fina, "mi rydw i wedi sylwi y medar cerbyd ag un ceffyl sefyll wrth ddrws capal, ond na fedar cerbyd a dau geffyl ddim; mae'r ddau geffyl bob amser yn dreifio heibio ac hyd at ddrws yr eglwys. Ond cheith y ddau geffyl glas ddim mynd heibio drws ein capel ni tra bydda i byw, gan nad sut."

"Cweit reit, mei diar," medde Claudia wedyn. "A blaw hyny welwch chwi, mi fydd yn help i chi 'ch bod chi'n Ymneillduwr 'rwan rhagor Eglwyswr. Dyma'r frwydr fawr ar Ddadgysylltiad yn ymyl, ac mi fydd y ffaith eich bod chi'n Ymneillduwr yn help i chi gael sedd yn y Senedd. Ac mi glywis i'r dydd o'r blaen mai ni'r Methodistiaid, ydi'r cryfa o'r holl enwadau yn Nghymru."

"Now lwc hiar, Claudia," ebe fi, ac mi rown i wedi cynhyrfu i waelod y nghalon. Yn un peth mi rodd yr ym- osiad ar Herbert Lewis wedi codi cryn dipyn o'r hen Adda ynw i; ac heblaw hyny, er y gwyddwn na 'toedd dim sail o gwbwl i'r cyhuddiad yn erbyn yr aelodau Cymreig, mi wyddwn fod yna erill yn marchogaeth u henwad i bob math o swydd ac anrhydedd fedra nhw. A chan fy mod i'n Fethodist cydwybodol, mi rodd yn gas gan y nghalon i feddwl am y giwed yma na 'toeddan nhw'n hitio dim am neb ond u henwad, a dim am u henwad chwaith ond fel moddion dyrchafiad iddyn nhw a'u ffrindia. Mae nhw i'w cael yn mhob enwad fel u gilydd; ond waeth i ba enwad y perthynant, o'r drwg y maent, a'r gwirionedd nid yw ynddynt, a gora po gynta y ceir u gwarad nhw bob copa o'r capal ac o'r wlad. Felly ebe fi.