Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"'Rwan, sbiwch yma Claudia; mi rydw i'n deyd unwaith am byth mod i'n Fethodist ac yn Anghydffurfiwr nid am mod i'n awyddus i fynd i'r Parlament, ond am mod i'n credu yny'n nhw. Tydw i ddim yn hitio un botwm corn prun ai'r Methodus ai'r Anibynwrs sy gryfa. Os ni sy gryfa yn y Gogledd, nhw sy gryfa yn y De: ac os nhw sy gryfa yn y De y Batis sy gryfa yn y Rhondda; ac os y Batis sy gryfa yn y Rhondda, y Wesley sydd gryfa yn Nghaerdydd. Ond welwch chi, dyna Lloyd George yn Fatis, wedi cael ei ethol yn Sir Gynarfon lle medra'r Meth- odus rhoid y Batis i gyd yn mhocad i wasgod; a dyna Mabon, ac yntau'n Fethodus, wedi cael ei ethol yn y Rhon- dda lle medrai'r Batis foddi pob Methodus yn medyddfan capel Morris Treorci; a dyna Anibynia Fawr wedi rhoid Abel Thomas i fewn yn eu priserf nhw yn sir Gaerfyrddin; a dyna Syr Edward Reed, ac yntau'n Eglwyswr, yn aelod dros Gaerdydd lle mae'r Wesley yn medru awdurdodi ar y cwbwl. Na! diolch i'r nefoedd, os oes rhai, fel mae llawar, yn rhagfarnllyd yn eu henwadaeth, ac yn tybio na ddichon dim da ddod o Nazareth unrhyw enwad arall, tydi pawb ddim felly, fel mae gora. Y camgymeriad mwya fedar Anghydffurfwyr Cymru byth wneud fydd ceisio rhoid un enwad i fyny i gystadlu a'r llall er gweled prun sy drecha. Ond petai felly, wnai o wahaniaeth yn y byd i mi. Prun ai a i i'r Senedd byth ai peidio, wna i byth osod fy enwad- aeth o flaen fy nyledswydd at fy ngwlad, i foddio neb ar wyneb daear!"

A tharewais fy nwrn ar lŵ-tebl oedd yn f'ymyl nes i'r pethau oedd arno fo neidio, ac mi syrthiodd un ffotoffrem yn cynwys darlun o Goleg y Bala, ar gefn y gath nes dychryn hono o'i synhwyrau.

Edrychodd Claudia yn syn arnaf am fynud, ac yna daeth