Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at f' ymyl a tharawodd ei llaw wen ar f' ysgwydd, ac mi welis i ddeigryn yn i llygad hi.

"David," ebe hi, "iw ar weiser in ol ddîs things ddan Ei am affter ôl. Tyda chi ddim wedi gwneud chwareu teg a chwi'ch hun erioed-nefer sins ddat neit wi met at ddi thiatr, hwen iw wêr affrêd tw spîc tw mi. Ac felly 'twyr pobol ddim am yr asgwrn cefn cry sy gyno chi."

Ymeflais yn y law wen oedd ar f' ysgwydd, a chusenais hi, gan ddweyd:-

"Beth bynag ydw i Claudia bach, a beth bynag fydda i byth, 'tydw i ddim, a fydda i ddim ond yr hyn fyddwch chi'n fy ngwneud i."

"Iw ffwlis boi!" ebe hithau, gan roid cusan ar fy nhalcan fel y gwnai bymtheg mlynedd yn ol.

"Mi rydw i am i bobol erill welad 'rhyn ydw i wedi welad erioed, ddat ddêr is rial grit, sownd comon sens, and betar talent ffor practical pyrposis under iwar modesti, ddan in ol ddi emti bostffwlnes and vên veporings of sym hw aspeiar tw sîts in ddi Hows."

Pan fydd Claudia'n dechra ar fy rinweddau i 'toes dim diwadd arni. A chwara teg iddi, er na fydda i ddim yn cydolygu â hi, mi rydw i'n credu ei bod hi'n credu'r hyn mae hi'n ddeyd am dana i. Chwara teg i Claudia, gan nad pa ddiffygion all fod yn perthyn iddi-a 'toes dim llawar- tydi ofni deyd y gwir ddim yn un o honyn nhw.

Wyddwn i ddim ar y fynud beth i atab iddi. "Toes dim yn fy nhaflu i oddiar y rheiliau ynghynt nac yn sicrach na chlwad rhywun yn rhoid clcd imi pan y gwn i na 'tydw i ddim yn ei haeddu. Ond tra 'roeddwn i'n chwilio am rywbeth i atab, dyma hithau'n mynd yn mlaen :-

"Mi ryda chi fel arfar yn iawn yn yr olwg yda chi'n ei gymyd ar eich Methodistiaeth a'ch rhwymedigaethau. Ond