Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar yr un pryd 'tydi hyny ddim yn rheswm dros i chwi beidio manteisio ar y ffaith eich bod chi yn Fethodus ffyddlon ac yn Ymneillduwr cyson. Yr ydych yn Ddad- gysylltwr o argyhoeddiad. Byt Ei wont iw tw get intw ddi swim, tw no ddi rôps, as pipl sê, and tw haf ddi hôl berings of ddi cês at iwar ffingers' ends, as it wêr."

"Raid iti byth ofni, Claudia bach," ebe finau. "Mi fydda i'n darllen y papyrau Cymraeg bob wsnos, a fedar dyn sy'n gwneud hyny'n gyson byth gyfeiliorni llawer ar unrhyw gwestiynau Cymreig."

"Wel, Ei am shiwar Ei hôp iw ar reit," ebe hithau, ond braidd yn amheus. Rhaid i chi gyfaddef, David, na ddaeth dim rhyw lawar o ffrwyth allan o'ch hymweliad chwi a Thŷ'r Cyffredin y noson cynt."

Wel mi wyddwn i hyny cyn gystlad a hitha, ond mi dybis mai deyd dim oedd y deyd gora.

"Mi rydw i wedi sgwenu at Lloyd George 'rwan," meddai hi'n mellach, "ac mi rydw i'n disgwyl atab oddi- wrtho bora fory."

Chwarddais inau.

"Be da chi'n chwerthin?" gofynai Claudia.

"Eich clwad chi'n deyd eich bod yn disgwyl atab oddiwrth Lloyd George! Tad anwyl! Fydd o byth yn sgwenu llythyr-ond at ei wraig. Mae nhw'n deyd fod gyno fo yn y tŷ acw lond cwpwrdd tridarn o lythyrau heb eu hagor, ac mae'r llythyra sy gyno fo heb eu hatab mewn bocs sy gyno fo yn yr Hows of Comons yn pydru ar ben eu gilydd, ac ogla papur wedi llwydo i'w glwad ugian llath orwtho. Mi fydd Arthur J. Williams yn mynd a photelaid o sent hefo fo, a hwnw at ei drwyn bob tro 'relo heibio i locar Lloyd George."

"Oh, iw ar tw sefiar, David," ebe Claudia, ond yn