Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwerthin 'run pryd. Ond mi rydw i'n shiwr ca i atab gyno fo-sy ora iddo fo."

"Ia, sy ora iddo fo, mae'n shiwr gyn i," meddwn inau. Wel, mi ddechreuis i godi tipyn ar y nghalon, waeth mi roeddwn i'n tybied os basa Claudia'n weitied tan y cai hi atab oddiwrth Lloyd George, y cawn ina lonydd am spel, a deyd y lleia. Ond torwyd ar draws y freuddwyd felus gyni hi'n deyd:-

"Ac mi rydw i'n mynd i welad Ledi Henry Somerset, hefyd. Mae'n dda cael dau linyn i'r bwa, David."

"Ledi Henry Somerset?" gofynais yn syn. "Beth neno'r anwyl sy gyni hi i wneud a'r cwestiwn o Aelodau Seneddol Cymru?"

"Gadewch hyny i ni'n dwy," ebra Claudia. "Iw shal si hwot iw shai si. Shî is yp his slîf, iw no."

"Rhaid ei fod o'n un mawr ynte, os oes lle i Ledi Henry Somerset yn ei lawas o," meddwn inau. "Pwy ydi o?"

"How absyrdli iw wil tôc symteims, David! Ond Mr. Gladstone ydi o. Mae hi'n llaw yn llawas hefo fo. Ac os medra i gael gyni hi'ch cymyd chi i fyny, 'toes neb a ŵyr beth all ddigwydd."

Oes yno le yn y llawas i mi a hithau?" gofynais.

"Mi fynwch chi, David, gellwair a chwestiwn difrifol fel hwn," meddai Claudia, ac mi welwn wrth y smotyn coch ar ei boch hi bod y denjer signal i fyny. "Mi rydw i am i chi gadw llygad ar gwestiwn Dadgysylltiad yma, fel y deydis i. Beth pytaech chi'n mynd lawr i Dŷ'r Cyffredin heno eto, a chael allan beth mae'r Aelodau Cymreig yn ei wneud 'rwan?"

Ac mi eis, ac mi rydw am ddeyd wrtha chi be welis i ac y glywis i yno.