Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VII.

GYDA'R AELODAU.

Ble mae'r Chwip?-Beth ydi gwaith Chwip?-Beth ydi "pario?"-Mr. Majority Banks-Herbert Lewis-Mabon a Richard Morris-Tân y Western Mail-Mr. Counsilor Beavan a'r Botal-Yr Aelodau Cymreig a Gladstone.

Gan weled fod Claudia wedi rhoid i chalon ar i mi fod yn aelod Seneddol, a chan wybod oddiar brofiad ei bod hi yn arfer mynu cael yr hyn y gosodai ei chalon arno, bernais mai gwell oedd i minau ddechreu meddwl o ddifri am y peth fy hun. Penderfynais fynu cael gweled gymaint ag a fedrwn o fywyd yr aelodau yn y Tŷ, fel na base'r lle na'r gwaith yn hollol ddiarth i mi os doi yr amser rywbryd i mi fynd yno fel Aelod Anrhydeddus yn lle fel ymwelydd achlysyrol. Gwnaeth Claudia i mi addo hefyd y baswn yn mynd a'r garej a'r ddau geffyl glas bob tro yr awn.

"Iw mê as wel dw ddi thing in steil hweil iw ar abowt it," ebra hi.

Ac felly bu. Gwnaethum y peth "in steil," chwedl hitha, dro ar ol tro, nes oedd fy nhipyn garej i-a charej digon swel ydi o hefyd ran hyny-mor adnabyddus i'r swyddogion y tu allan i Westminster Hall ag eiddo Lord Solsbri ei hun.

Wel pan euthym tua'r Tŷ yr ail dro yma mi roeddwn wedi dysgu chydig oddiwrth fy mhrofiad y tro cyntaf, ac felly llwyddais i gael o hyd i Tom Ellis heb lawar o