Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim roid i bleidlais yn erbyn Mr. Gladstone, hyd yn nod pe tae hyny'n gorchfygu'r Llywodraeth; a fedar o ddim, os yn Libral, roit i fot pe bai ei heisieu i gadw'r Weinyddiaeth yn fyw.[1] Ond mi welwch nad ydi fot y dyn hwnw'n cael ei golli i'w blaid chwaith, canys tra bo fo ffwrdd mi fydd un o'r ochr arall ffwrdd hefyd. Trwy'r chwips y byddis yn trefnu'r pario, ac wrth gwrs mae pob un yn cael pario a rhyw un neillduol, a dim ond un ar y tro, o'r ochr arall." "Felly rhaid i bob un fydd am fynd i'r capal, neu'r seiat, neu'r thiater, neu rywla, ofyn cenad y chwip cyn mynd allan,-fel hogia yn yr ysgol yn gofyn i'r scwlmaster?"

"Ie siwr," atebai Ellis, "os na fedran nhw, fel hogia drwg, scelcian allan heb i'r meistar u gwelad nhw. Mi wna'n nhw hyny tae nhw'n gallu hefyd."

Rhaid i chi gadw'ch llygada'n agor felly ynte?" meddwn. "Rhaid ddyliwn i wir! Rhaid imi fod yma yn amal o ddau o'r gloch prydnawn, neu cyn hyny, tan ddeuddeg y nos, ac weithia tan un neu ddau neu dri o'r gloch y bora. A thros yr amsar yna rhaid imi fod yn gwybod yn mha le y gallwn gael o hyd i bob dyn o'n hochor ni sydd heb bario. Ond dacw'r chief whip, fy meistar i, yn codi ei fys arnaf. Dof yn ol yn y man."

A ffwr a fo at ei feistar, chwedl ynta. 'Rol siarad gair neu ddau a hwnw, ffwr a Ellis rhwla arall, a chan gofio fod Claudia yn disgwyl imi wneud y gora o'r amsar, tybis na fedrwn i neud dim yn well na mynd i sewrsio tipyn hefo'r "tshif hwip," yr hwn sydd wrth gwrs yn ddyn o gryn ddylanwad yn y blaid.

  1. Dymunwn eto adgoffa'r darllenydd mai at 1893, pan oedd Gweinyddiaeth Mr. Gladstone mewn awdurdod, y cyfeiria y rhanau arweiniol o Hunangofiant Dafydd Dafis. Wrth gwrs, bydd penodau diweddarach yn cyfeirio at amgylchiadau 1898, a Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury.-GOL