Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Pwy wyr," meddwn wrthaf f' hun, "na fedar o roid gwybod imi am rywla lle gallaf gynyg fy hun mewn pryd."

Felly euthym i fyny ato fo, ac, ebra fi, gan dynu f' het:

"Mr. Banks, Ei bilif?"

Mi 'drychodd arna i, ac ebra fo:

"No, syr, mei nêm is Marshbanks."

"Oh Ei beg iwar pardon Ei am shiwar. Ei so mei friend Mr. Tom Ellis tocing tw iw, and Ei thôt iw wêr ddi tshiff hwip, Mr. Majority Banks."

Spiodd yn wirion arna i am fynud, ac yna torodd allan i chwerthin. Mi ddigis i beth wrtho am chwerthin am y mhen i fel 'na hefyd, am ddim ond y mod i wedi i gamsyniad o am ryw un arall; ond cyn i mi gael amser i ddeyd dim pellach wele Ellis yn i ol, ac ebe'r gŵr diarth wrtho:

Hiar, Ellis! Plis introdiws mi tw iwar ffrend hŵm Ei têc tw bi a wit of ddi ffyrst water. Hi has don mi ddi honor of pyrpytreting a joc ypon mi of hwitsh Ei shal nefer hiar ddi last Ei am affrêd."

"Permit mi, dden," ebe Ellis, "tw introdiws a thyrogoing Welsh Nashynalist and mei particiwlar ffrend, Mr. David Davies, Mr. Marshbanks; Mr. Marshbanks, Mr. Davies."

Bowiais ac estynais fy llaw gan ddeyd: "Ei hôp iw wil ecsciws mi ffor mistecing iw, Mr. Marshbanks. Ddi ffact is, Ellis, Ei thôt iw pointed ddis jentlman owt tw mi as ddi tshiff hwip, Mr. Majority Banks."

"Ddêr iw ar agen!" llefai Mr. Marshbanks gan dori i chwerthin dros yr holl le, ac Ellis, ar ol spio arna i, a deyd: