Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond gyn na fedrai Ellis ddim aros gyda mi o hyd, rhoddodd fi yn ngofal un arall o'r aelodau, Mr. Herbert Lewis. Mi roeddwn i wedi cwarfod Mr. Herbert Lewis yn mhlith y ledis y nos o'r blaen, ac mi roeddan ni wedi dod yn gryn dipyn o ffrindia. Bachgian reit glên ydi Herbert Lewis hefyd, a chyda hyny'n reit smart o ran 'i berson ac o ran 'i feddwl a'i dafod hefyd. Mae'i ddull o mor blesant ag ydi 'i wymad o o hawddgar, neu 'i dafod o o ffein; ond tydi'r cwbwl sy gynddo ddim ar y wynab chwaith. Mae yna fwy o allu o'r golwg o'r hanar nag a dybia neb ar yr olwg gynta arno,-ac mae Esgob Llanelwy wedi dysgu hyny erbyn hyn, hefyd.

Wel, mi aeth o a mi o gwmpas, a chawsom amser reit braf o honi. Daeth twr o'r aelodau Cymrag o'n cwmpas, ac yn 'u plith nhw Mabon, a Sam Evans, ac erill.

"Be sy arnoch chi, Mabon, heno?" gofynai Herbert Lewis. Mi rydach yn edrych mor ddifrifol a chwyadan ar daranau."

"Oh mi wn be sy arno fo," ebe Sam Evans. "Mae Mr. Richard Morris, Pentre, wedi rhoi notis tw cwit iddo."

"Taw di son, Sam," ebe Mabon. "Rhaid i Dick Morris godi'n foreuach cyn y gall e byth y'n nhroi i mas o'r Rhondda."

Mae ê am sefyll, ond dyw ê?" gofynai Sam Evans. "Oti, oti. Neu mae e'n gweyd hyny, ta beth," ebe Mabon. "Mi fuodd yn offis y South Wales yn gweyd wrthyn nhw fod comiti yn Nghardydd wedi cisho gydag e i sefyll, a'i fod e'n meddwl gneud. Ond dir-di-shefo-ni, os neb yn gwbod ble bydd Dic cyn pen mish."

Mi gefis i gryn drafferth i ddeall be oedd Mabon yn ddeyd, a tydw i ddim yn reit siwr y mod i wedi gallu i ysgrifenu o i lawr yn gywir chwaith. "Tydi Cymrag y