Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhondda ddim yn Meibl Peter Williams, a 'toes dim Rhon- dda Dictionary gen ina. Ond "bachan piwr digynyg" chwedl yntau, yw Mabon, "dyn clen anghyffredin" fel y deydai pobl y Gogledd; ac mi fasa pawb o bob plaid, yn gofidio i weld o yn cael i droi allan. Ond hyd rwy i'n medru welad, 'toes dim rhyw lawar o beryg o hyny chwaith.

Wrth scwrsio hefo'n gilydd, mi drodd enw'r Western Mail i fyny, a'r tân mawr oedd newydd ddifetha'r swyddfa. Mi rodd yno amryw'r byd o'r hogia'n deyd mai piti garw fod y Mail wedi mynd ar dân, ac erill yn deyd mai piti mwy na hyny oedd na fasa lol Morien, a pheiriant anwireddau'r swyddfa wedi mynd ar dân gyda'r adeilad. Mi rodd David Randell, a D. A. Thomas yn blino'n arw iawn dros yr anffawd, ac S. T. Evans yn deyd dim.

Ac yna mi ddaeth stori ddoniol allan am hanes y tân. Dyma fel y cefis i hi:

Pan oedd y tân yn y Western Mail wedi dechreu cael gafael ar y lle, a phan oedd dynion wedi dod i gredu nad oedd dim modd achub yr adeilad, mi ddechreuwyd brysio i gario'r llyfrfa, a rhywbeth ellid gario'n rhwydd, allan cyn i'r tân gael gafael arnyn nhw. Mi 'roedd yno lawar yn barod i roid help llaw, ac yn 'u plith nhw ambell i Libral ac Anghydffurfiwr. Ond mi welwyd un dyn yn rhuthro drwy'r fflamau i fiawn i gysegr y swyddfa, ac yn dod yn i ol yn fuan a photal fawr yn ei law, a'i wynab yn ddu gan y mwg, ac ambell i linell goch lle 'roedd y chwys wedi rhedag i lawr drwy'r duwch ar i wymad o. Wel pwy oedd o ond Counsilor Ebenezer Beavan, dyn mawr hefo dirwest, ac areithiwr yr Aleians a phob dim. Mae o wedi dechreu woblo," neu fynd yn ansefydlog i feddwl, ar gwestiwn Dadgysylltiad, ac wedi dod yn ffrindia garw hefo'r Mail,