Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er mai papur y tyfarnwrs ydi hwnw hefyd. Wel, fel y deydis i, mi ddaeth Ebenezer Beavan ar botal garag yma yn ddiangol yn i law drwy'r tân, a dyma fo i fyny at un o staff y Mail.

"Mei diar brydder," ebra fo,-canys mae pawb yn "frawd" i Mr. Beavan, yr hwn sy'n pregethu tipyn weithia hefo'r Wesleyaid. "Frawd anwyl," ebra fo a'i lais yn crynu gan ddwysder ei deimladau (ond mae yn Sasnag yr oedd o'n siarad), "Da gennyf allu gwneud y gymwynas fechan hon i chwi. Hyderaf y bydd y botal yma, a'i chynwys, yn gymorth i chwi, yn ysbrydoliaeth i chwi, pan yn oriau gwyll canol nos y byddwch a'ch ysgrifell yn goleuo tywyll- wch ein gwlad, i gofio fod y botal yma wedi cael ei hachub i chwi megis pentewyn o'r gyneuedig dân," ac estynodd y botal i'r cyfaill o'r Mail.

Edrychodd hwnw arni, a'i lygid yn syn, canys mi rodd hi gan ddued a'r pentan. Ond goleuodd i lygad pan yr adwaenodd yn y botal hen greadures reit adnabyddus ganddo fo, a chan estyn i ddwylaw, ymaflodd yn gariadus yn y botal a'r naill, ac yn llaw Mr. Beavan a'r llall, gan ddeyd, a'r dagra ar i rudd:

"Mi ryda'ch chi'n triw bliw Mistar Beavan," ebe fo, "yn well dyn o'r hanar na mae pobl yn dybiad eich bod chi. Gymrwch chi ddracht o'r botal yma, deydwch?"

"Dracht o inc?" gofynai'r areithiwr dirwest yn syn.

"Inc yn wir! Ewch i gebyst a'ch inc. Ond potal Scotch Wiskey'r Swyddfa ydi hi, rial mowntain diw, y dyn gwirion!" a chododd ei genau yn gariadus at ei geg, ac yfodd ddracht.

"Ha!" ebe fo, pan fedrodd gymyd i wynt. "Dyna ysbrydoliaeth os mynwch."