Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond erbyn hyn mi roedd yr areithiwr dirwest druan wedi ffoi am i einioes.

Wel mi aeth yr amser yn gyflym rhwng pob peth a'u gilydd, ond wrth gadw'm clustiau a'm llygid yn agored, mi ddysgis gryn lawar hefyd. Yn un peth mi ddeuthym i wybod fod yr Aelodau Cymreig am anfon petisiwn at Mr. Glaston am iddo frysio Dadgysylltiad, ac mi eis yn ol gartra, gan geisio dyfalu sut y cawn i gopi o'r petisiwn. Waeth mi wyddwn basa'r Aelodau Cymreig yn cadw'r sicret yn fwy gofalus nag y ceidw'r ferch ieuanc ei llythyr cyntaf oddiwrth ei chariad. Ond er mor ofalus oeddan nhw, mi ddaeth y peth i'm dwylo, rywsut, mewn ffordd na fasa neb yn ei feddwl 'rwan, fel cewch chi welad yn y man.