Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VIII.

Y CYMRY A MR. GLADSTONE.

Yr ohebiaeth a'r hen wr-Sut y cefais i o-Y tair plaid Gymreig-Y llythyr at Mr. Gladstone-Pwy a'i harwyddodd,- pwy beidiodd- Yr atebiad iddo-Dehonglwr meddwl Mr. Gladstone - Yr aelod newydd dros Abertawe-Samuel Smith yn maflyd yn ngholer Rathbone-Bryn Roberts mewn cwmni drwg-Bowen Rowlands a'i sedd-"Tobit" yn ceisio gwlad well.

Fel y deydais yn y benod o'r blaen, mi rydw i wedi llwyddo i gael o hyd i gopi o'r llythyr anfonwyd gan yr aelodau Cymreig at Mr. Gladstone yn galw ei sylw at bwys- igrwydd y cwestiwn o Ddadgysylltiad, ac hefyd gopi o atebiad yr hen wron.

Dyma sut y digwyddodd. Fel y gwyddoch chi mi roeddwn i erbyn hyn wedi ei gwneud yn arferiad i fynd i lawr i'r Hows of Comons rhan amla bob dydd pan fyddai'r Tŷ yn eistadd. Yr oeddwn yno un prydnawn, a Mabon yn dangos rhai o ryfeddodau'r lle i mi. Daethom at ddrws cauedig, yr hwn y ceisiodd yr aelod dros y Rhondda ei agor. "Oh, daro," ebe fe, "mae'r rwm wedi ei gloi. Fan hyn byddwn ni, yr aelodau Cymreig, yn cynal ein cwrdde, ac mae'r lle bron mor enwog yn awr a Nymber 15."

"Nymber ffifftin? Be 'di hwnw?" gofynais.

"Bachan !" ebra fo, "Ble 'rwyt ti wedi bod? Yn Nymber 15 y mae'r Gwyddelod yn cwrdd, a dyna lle bu'r row fawr à Parnell, ti wyddost."

"Oh ie," atebais.

W"el, dyma'n room Nymber 15 ni, y boys o Gymru,"