Dafydd Jones o Drefriw.
[Codwyd y darnau sy'n canlyn o lawysgrif Dafydd Jones o Drefriw, yn awr ym meddiant y Parch. R. J. Jones, M.A. Gwn y bydd yn dda gan efrydwyr llenyddiaeth gael y manylion rydd casglydd y Blodeugerdd" am dano ei hun, a'r ychydig oleuni deifl ar y cyfeillgarwch rhyngddo â Morysiaid Mon ac a thad Goronwy Owen, a'r nodion dyddorol sy'n ffrwyth ei sylwadaeth neu ei efrydiaeth. Ceir amryw bethau yn ei ysgrifau am ardal Penllyn; yr oedd Sion Dafydd Las o Lanuwchllyn yn ewythr iddo o gefnder ei fam, ac feallai ei fod yn hannu o ochr ei fam o'r Fychaniaid.]
DAFYDD JONES a anwyd yn y flwyddyn 1703, dydd Mawrth, mis Mai 4 dydd, yr haul yn 24 arwydd y Tarw a'r lleuad yn newid 4dd, 8A. 4 mynyd o'r prydnawn. Ei eni ef yn y bore'nghylch 11 ar gloch, y lleuad yn 30 oed.
Cwnstabl Trefriw ym Medi 1758.
Achau ei fab Ismael fu farw 1735. Ismael ap David ap Sion ap David ар Sion ap Rhys ap Rhydderch ap Lewis ap Ieuan ар Sion ap Heilin ap Euan ар Gro ap Llowarch ap Dafydd ap Dafydd ap Gr. ap Lln. ap Iorwerth ap Owen Gwynedd ap Gth. ap Conan tywysog Cymru.
CHWEDL AM LYN TEGID.
Yn y flwyddyn hon—1735—y bum i yn siarad â gŵr ynghylch Llyn Tegid. Efe a glybu gan hen bobl mai ffynnon ydoedd ynghylch ei ganol ar gyfer Llangywer, a'r ffynnon a elwid Ffynnon Gywer, a'r dre ydoedd yn yr amser hwnnw ynghylch y ffynnon ag o'i deuty. A gorchymyn oedd am roi caead ar wyneb y ffynnon bob nos. (Cyffelyb fod yn y dyddiau hynny wybodaeth gan rywrai oni wneid hyny y byddai ddistrywiad i'r dre). Ond fe anghofiwyd rhoi'r caead ryw nos, ag erbyn y bore, Wele! sinciodd y dref ag aeth y llyn yn 3 milldir o hyd ag un filldir o led. Hwy a ddywedant hefyd fod rhai ar ddiwrnod eglur yn canfod y simnau y tai. Wedi hynny yr adeiladwyd y dre yn is na'r llyn. Hi a elwir y Bala. A'r gŵr a ddywawd wrthyf fi ei fod ef yn siarad â hen wr o'r Bala, a hwnnw a fuasai pan oedd ef yn ifangc yn lladd 2 bladur neu 2 ddydd o wair rhwng y ffordd a'r llyn; ond yrwan mae y llyn wedi myned dros hynny o dir a'r ffordd hefyd. Fe fu rhaid prynnu tir ymhellach i wneud y ffordd, ag mae rhai yn dywedyd y sincia'r dref etto hyd at y lle a elwir Llanfor; eraill a'i geilw Llanfawdd neu Llanfawr Ymhenllyn. Mae 4 eglwys o gwmpas y llyn, ag a elwir Llanfor, Llangywer, Llanuwchyllyn, Llanyccil. Llandderfel a wna gwmwd Penllyn. Hefyd pan fyddo'r hin yn demhestlog fe fydd dŵr yn ymddangos ag yn codi o bob llawr tŷ o fewn y Bala, ag amser arall fe all pawb gael digon o ddŵr yn llawr ei dŷ i wasanaethu ei dŷ ond cloddio ychydig i'r llawr. Meddaf fi. Dd. Jones.
CAMFA HWFA.
Myfi a fum dros Gamfa Hwfa, yr hon sydd yn agos i Yspytty Ewan, a'm cydym- maith John Dafydd o Bentre'r Fidog a ddywedodd i mi glywed o honaw ynteu gan hen bobl yno, fod rhyw yspryd yn y lle hwnnw, a dyfod dyn i'r tŷ sydd yn agos i'r gamfa i geisio lletty; a thylwyth y tŷ a addawodd iddo letty; ond hwy ofynasant iddo ei henw. Ynteu a ddywedodd mai Hwfa a oedd i enw. Yna ebr y naill wrth y llall—Hwfa. Un o'r teulu a ddy- wedodd fod rhywbeth yn galw arno ef wrth y gamfa ers talm o amser fel hyn,―
Ellyll rhiw yr Gamfa
Hir yw'r nos i aros Hwfa.
Pan fum i yno
Medi 16, 1735.
Yna'r dyn a ymofynnodd am y Gamfa. Hwythau a ddangosasant iddo y ffordd atti; yr hon sydd o fewn ergyd carreg at y tŷ, a phan aeth ef yno, ni welwyd mo'r dyn! na chlywed son am dano chwaith fyth! Hefyd ni chlywyd mo'r yspryd yno byth mwy.— Dafydd Jones.