Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DAFYDD JONES
O DREFRIW.

I.
Y LLENOR A'I OES.

YCHYDIG yw nifer y gwyr grymus a orchfygant ddy- lanwadau eu hoes,—pobl gadwant eu nhodweddion naturiol eu hunain, heb ddwyn eu medr yn gaeth i ffasiwn, ac heb eu nhewid gan hindda a hinddrwg cymdeithas; pobl greant oes newydd, o leiaf elfennau newydd ym mywyd eu hoes. Mae'r llu mân ffrydiau sy'n ymgolli yn yr afon yn grymuso ei nherth; ond y llif sy'n penderfynu cwrs ei rhedfa. Mae gan gymdeithas weision gonest, y rhai deimlant ei hanghenion, gan weithio mewn amser ac allan o amser er eu puro a'u cyflenwi. Ceir eraill yn ddim am-