Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

genach na gwylwyr cyfleusterau, i droi'r mân ffrydiau i'w mantais eu hunain, fel pe cymdeithas a wnaed er eu mwyn hwy, ac nid hwy er mwyn cymdeithas. Fel mae'n syn, y rhain yw'r dosbarth gwasaidd, a gwas y gweision, oherwydd trwy waseidd-dra y ceisiant gyrraedd eu hamcanion. Y neb a el yn was i hunan, a ddewis feistr a'i gorfydd i wasanaethu pawb eraill. Felly, dan lawer amgylchiad, cymdeithas sy'n gwaseiddio'r dyn, ac nid y dyn yn gwedd-newid cymdeithas. Hon yn fynych yw tynged mân lenorion, pobl sy'n offeiriadu yn unig am eu bod o lwyth Lefi. Temtir hwy i arlwyo i'w cenedl arlwy o'r fath a gâr, seigiau. poblogaidd trachwant llenyddol. Maent graff i ganfod tueddiadau gwyllt, a nodedig fedrus i'w gwasanaethu. Codant o'u beddau esgyrn saint, os pair hynny i bobl synnu. Marchogant ofergoelion pob diniwed, os dwg hynny iddynt elw. Tynghedant bobl i gredu mai sylfaeni cymer- iadau yw'r mân chwedlau a adroddwyd gan gymdogion cenfigenllyd, neu a wran- dawsant yn frysiog gan wyr fu'n mwyn- hau caredigrwydd o dan gronglwyd y rhai y gwneir cam â'u cymeriadau. Bu'r dosbarth hwn o dro i dro yn ceisio gwthio