Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu gwrachiaidd chwedlau i blith ffeithiau. hanes goreugwyr ein gwlad, a chredwyd hwy gan yr ehud ei galon.

Hon yw'r duedd afiach sydd mewn newyddiaduron am newyddion cyffrous, ac am benawdau mwy cyffrous na'r newyddion. Mae deffro cywreinrwydd a phorthi math ysbrydiaeth yn gelfyddyd. Yr ysbryd dewiniaeth sy'n dwyn elw.

Gwlad beirdd a barddoniaeth yw Cymru. Ond mae ein barddoniaeth eto, mewn un wedd, fel heb ei dwyn yn gelf gain, i'w dosbarthu, ei hesbonio, i nodi ei meddyliau fel safon bywyd a moes, ac fel cyfrwng i ddwyn dynion i olwg y prydferth sy'n llawenydd tragwyddol i'r neb a'i canfyddo. Gwir y gwneir defnydd anuniongyrchol o honi yn ein colegau, er egluro gramadeg yr iaith. Mae hefyd lawer o hanes Cymru yng nghywyddau beirdd y canol oesoedd. Mae a'i cloddio allan? Pa bechodau bynnag gyflawnodd y Dr. Owain Pugh, Iolo Morgannwg, Owen Myfyr, a'r tô a gododd o dan eu dylanwad, gwyddent lawer mwy am farddoniaeth Gymreig na'r to o eisteddfodwyr trystfawr a'u dilynodd.

Nid yr un yw'r beirniad barddoniaeth a'r bardd. Mae ein beirdd yn llu, ond ein beirniaid