Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ychydig. Yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf cawsom lu o eisteddfodwyr, dawnus ddigon fel beirdd, ond hollol amddifad o fedr i feirniadu barddoniaeth. Mae gwael a gwych, o ran celf a meddwl, eu barddoniaeth hwy eu hunain yn ddigon o dystiolaeth dros ein gosodiad. Mae'n aros fod ein barddoniaeth heb ei dosbarthu yn ol ei nhodwedd a'i nhatur. A yw'r unffurfiaeth nodwedd a ymddengys ar ei gwyneb, o Ddafydd ap Gwilym hyd yn awr, yn esgusodi'r diffyg? Y diffyg yw'r gwir reswm paham yr ymddengys mor unffurf ei nhodwedd. Ein hangen heddyw, felly, yw troi ein barddoniaeth yn fwy o gelf gain, i sefyll neu syrthio yn ol ei gwerth; yn lle ei chlodfori, o ba radd bynnag y bo, ar drostan eisteddfod.

Mae rhyw ffasiwn ym myd meddwl, a gweiniaid pob oes yn ei hefelychu, a llawer o'r cryfion yn boddloni i'w ffurfiau. Canu cywyddau cryfion pert wnaeth yr hen feirdd; hon oedd eu ha fer. Canodd Huw Morus ganeuon, o ffurf neillduol yn bennaf, a chanwr caneuon fu pob bardd bach am ddegau o flynyddoedd. Ceisiodd Goronwy Owen a'r Morrisiaid adgyfodi'r hen arfer, sef