Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. AMCAN A LLE DAFYDD JONES.

Anhawdd gwneuthur cyfiawnder â llafur llenyddol Dafydd Jones, heb hefyd roddi trem ar ansawdd foesol a chymdeithasol Cymru yn ei amser ef. Canys yr oedd llafur llenyddol ei ddosbarth ef yn cael ei benderfynu i raddau pell gan chwaeth lenyddol a chrefyddol ei oes. Ceir dynion yn gweithio am fod ynddynt nerth bywyd; proffwydi yn meddu neges neillduol, a rhaid yw ei thraethu, pa un bynnag a ddeallir ac a fwynheir hi gan eu cydgenedl ar y pryd a'i peidio. Eraill,

llai galluog, ond nid llai gonest, llenorion marchnad ydynt, ac angen y farchnad i raddau pell a benderfyna natur eu gwaith. Nid sarhad mo hyn. Mae'r llenorion ymarferol yr un mor wasanaethgar i gymdeithas a'r bobl fawrion, yr angylion a ehedant yng nghanol y nef o ran eu meddwl, ond a ymguddiant yn eu celloedd o ran eu cyrff. Hwy yw gweision y werin, a'r werin yn ei amser ef oedd y dosbarth anghennog. Y werin bobl a esgeuluswyd, pan y dylasent gael y sylw pennaf. Yn lle cysegru goreu eu gallu