Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'u doethineb er eu dyrchafu, sefydlodd y llenorion pennaf gymdeithasau er diddanu eu gilydd, gan adael y bobl gyffredin at drugaredd yr annoeth a'r diddawn. Bardd yr ychydig oedd Goronwy Owen. Am yr ychydig y cofiodd Rhys Jones o'r Blaenau

Blaenau yn ei "Orchestion Beirdd." Hulio bwrdd y bobl gyffredin a wnaeth Dafydd Jones a Hugh Jones Llangwm. A chanwr baledi'r tafarnau a'r ffeiriau, boddhawr y gwamal a'r ofergoelus, oedd Elis y Cowper. Canu cân ei galon a wnaeth Goronwy Owen, fel bwrw had i'r ddaear, heb un sicrwydd yr argreffid ei gywyddau byth, heb son am gael cymaint a ffranc am ei lafur. Yr oedd

Dafydd Jones lawer nes i fwrdd y cyfnewid; rhaid oedd iddo fyw ar lafur ei ddwylaw. Hyn oedd hanes ei ddosbarth. Rhaid oedd trefnu eu llafur llenyddol yn ol eu hamgylchiadau. Nid elw chwaith oedd eu cymhelliad, canys profasant lawer rhy fynych chwerwder a siomedigaeth colled. Yr oedd eu hanfanteision yn fawrion, a'u mwynderau yn ychydig. Fel ei holl gydoeswyr o'i ddosbarth, felly hefyd Dafydd Jones—ei anfanteision yn fawrion; a thegwch a'i waith yw ei farnu yng ngoleu'r rheiny.