Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chyfoethogwyd ein llenyddiaeth na'n barddoniaeth oreu. Ond arloesodd y tir. Cyflenwodd ryw angen, a deffrodd anghenion uwch. Wrth roddi arlwy ar fwrdd cyffredin ei oes, cymhellodd hwy i bethau uwch a rhagorach. A darllenwyr pethau cyffredin un oes, yn fynych, yw tadau a mamau cewri yr oes ddilynol. Amcanodd yn dda; ac yn ol ei allu a'i fanteision gweithiodd yn rhagorol. Nid ydym wrth hyn yn cau ein hunain allan rhag beirniadu ei amcanion. Yn hytrach fel arall, tueddir ni i roddi ein dyfarniad yn ei erbyn, sef nad ymarferol i ŵr o ddysgeidiaeth gyffredin, o amgylchiadau lled isel, ac yng nghanol cymaint o anfanteision, oedd cysegru ei fywyd mor llwyr i wasanaethu llenyddiaeth ei oes a'i genedl. Ar yr un pryd rhaid cofio'r ysbryd a feddiannai ddynion. Yr ysbryd gwladgar a llengar hwnnw a barodd i lawer obeithio yn erbyn gobaith, a llafurio yng nghanol dyrysni heb wangalonni. Hauasant heb obaith medi o ffrwyth eu llafur yn na'r byd hwn.

Cyfiawnder a'u coffadwriaeth yw esbonio eu hymdrechion hunanaberthol yng ngoleu un o ddwy ffaith—eu cariad at lenyddiaeth ynddi ei hun, neu eu cariad at lesoli eu gwlad. Credaf