Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai'r cyntaf yw'r eglurhad goreu ar fywyd a theimladau Goronwy Owen.

Gwir y carodd ei Fon gu à chariad angerddol. Ond prin y gellir ei osod allan fel gwr a garodd ei wlad, a garodd Gymru gyfan. Hiraethu a wnaeth am gongl glyd, uwchlaw angen, ym Mon, i ganu teimladau byw ei galon. Yr oedd Ieuan Brydydd Hir, ei gydoeswr tlawd a thrallodus, lawer mwy gwladgar. Nid canu cywyddau, er iddo wneyd hynny, ond codi Cymru, codi ei wlad, a geisiodd efe. Fel cylch ei hoffder, yr oedd cylch ei lafur lawer eangach. Fe allai na feddai Dafydd Jones mo'r meddwl cryf ei ddoniau i garu llenyddiaeth er ei mwyn ei hun. Cariad at wlad, a math o ddawn lengar, oedd ei ysbrydiaeth ef. Ceir amlygiadau o'r cariad hwn yn torri allan yn awr ac eilwaith, pan ofidiai oherwydd tuedd Seisnig yr Eglwys, a dibrisdod gwreng a boneddig o'r Gymraeg. Carai a pharchai y rhai a garent Gymru a'i hiaith.

Gynt, cefnogwyd ein llenyddiaeth a'n llenorion gan fawrion y wlad, pan oedd—ent hwy eu hunain lenorion, a llenorion Cymreig. Hyn sydd fawl cywir gorffen—nol gwyn, a chlod priodol tir arglwyddi'r