Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser gynt. Tystia cywyddau clod a chywyddau coffa y molai'r beirdd bobl oedd garedig iddynt. A hwn, fe aliai, yw'r esboniad cywiraf ar y ffaith fod cymaint o waith ein hen feirdd, a chymaint o lawysgrifau hanes, yn llyfrgelloedd ein plasau. Pa fodd bynnag, braint a gollwyd yw erbyn heddyw. Ond er colli Arthur, cadwyd ei fri; a gwrendy cenedl am ei swn yn deffro.

Yng nghyfnod Dafydd Jones yr oedd y croesaw hwn yn cilio, os nad wedi cilio o'r wlad. Yr oedd perthynas cymdeithasol, gwreng a bonheddig, i raddau pell wedi newid. Peidiodd y bonheddig a bod yn noddwr llafurwr ei dir; o ganlyniad peidiodd y llafurwyr a bod iddo yntau yn deulu." Bellach nid arglwydd, ond tir arglwydd, oedd un; ac nid deiliaid, ond tenantiaid, oedd y lleill. Pan ddaeth "teulu" y mawrion i olygu yn unig rai o'u gwaed hwy eu hunain, diflannodd cadeiriau'r beirdd oddi ar yr aelwydydd; a daeth eu croesaw yn ddyledswydd wladol os nad cardod bersonol. Bu Ieuan Brydydd Hir yn byw mewn trallod ac angen ar gardodau olaf yr arfer hon. Syr Watkyn Wyn a'i cynorthwyodd am amser, gwedi hynny'r Paul Panton o