Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Blas Pentraeth, yr olaf hwn yn ei helpio ar yr amod fod ei holl ysgrifeniadau a'i ysgriflyfrau i fyned yn eiddo'r Paul Panton ar ei farwolaeth.

Er daed yr amod o du'r boneddwr, dogn tloty a roddwyd i sicrhau'r pwrcas.

Ni fanteisiodd Dafydd Jones hyd yn oed i'r graddau y gwnaeth Ieuan Bry—dydd Hir ar hen arfer dda'r dyddiau gynt. Yr oedd Ieuan yn llenor yn ol anianawd y mawrion, yn ysgolhaig gwych yng Nghymraeg, Saesneg, a'r Lladin, yn fardd coeth, ac yn hanner addoli trysorau eu llyfrgelloedd. Os prin fuont yn eu nawddogaeth iddo ef; pa wedd y gellid disgwyl iddynt noddi gwr cyffredin ei ddysg a'i ddawn fel Dewi Fardd? Nid oedd fardd o'u dosbarth nac i'w dosbarth. Syndod i'r Morrisiaid ei arddel fel y gwnaethant, os teilwng galw ei ganmol a'i wawdio bob yn ail yn arddel hefyd.

Un o'r prif anhawsderau oedd cyflwr isel crefydd. Prin yr oedd y Diwygiad Methodistaidd eto wedi gosod ei ol ar Ogledd Cymru, tra'r Eglwys Wladol of dan lwch segurdod, a'r offeiriadon yn cysgu'n drwm. Amhosibl esgusodi'r Eglwys esgeulusodd y rhan fwyaf elfennol mewn addysg fydol a chrefyddol, sef