Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion ei ddarllen o "ran digrifwch yr ymadrodd." Er ei fod yn "Gydymaith Diddan," ac yn ddifai fel y cyfryw, prin y bu'n foddion i ddysgu pobl i ddarllen.

I ŵr o amgylchiadau. a moddion Dafydd Jones, rhaid fod cyhoeddi llyfrau yn flinderus a dielw, er ei fod yn teithio'r wlad ei hunan i'w gwerthu. Ond caletaf y gwaith, mwyaf y clod. Yr oedd yr argraffwasg am ran gyntaf ei oes ymhell, yng Nghaer neu'r Amwythig yr oedd yr agosaf. Yr argraffwyr yn ddim amgenach na bwngleriaid, felly yr oedd cywiro'r wasg yn orchwyl pwysig. A pha faint bynnag o newyn llyfrau oedd yn y wlad, rhaid oedd dioddef ei arteithiau o ddiffyg moddion i'w prynnu. Felly nid rhyfedd fod canu cerddi ceiniog eu pris yn arfer mor gyffredin; dygent rywfaint o elw, tra'n llawer llai anturiaeth na chyhoeddi llyfrau. Gwelir yn amlwg oddi wrth amryw o'i lyfrau y rhaid fod ei drafferthion yn fawr, ei dreuliau personol yn drymion, ac yntau heb fawr foddion i ymgynnal danynt. Ceir ei ragymadrodd i'r Cydymaith Diddan" wedi ei leoli a'i ddyddio—