Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Caer Lleon, o'm stafell,
Ar Graig yr Hewl beeth.
Chwefror 7, 1766."

Trigai ar y pryd yn Nhan yr Yw, Trefriw; ac yn ol a ysgrifennodd Ieuan Brydydd Hir am dano, Ion. 14, 1761, yr oedd yn meddu "rhawd o blant bychain, sef chwech neu saith ... yn achwyn bod arno ddyled, ac eisiau modd i dalu ei ardreth."[1] Yr eglurhad ar y lle yr ysgrifennodd ei ragymadrodd yw ei fod yno'n cywiro'r wasg." A rhaid fod hynny'n drafferth gostus i ŵr yn meddu amryw blant, a'i amgylchiadau ariannol yn gyfryw nes methu o hono "dalu am ei nenbren."

Fel yr awgrymasom, yr oedd Dafydd Jones yn gydoeswr a'r Diwygiad Methodistaidd." A thyna'r cyfan.[2] Rhaid y gwelodd olion ei ddylanwad ar fywyd moesol y De; y gwelodd y gwanwyn ysbrydol hwn yn dechreu gweddnewid

  1. Gweithiau Ieuan Brydydd Hir. Llythyr 9.
  2. Clywsom, wedi ysgrifennu'r uchod, fod yn y Cwrt Mawr lythyr o waith Dafydd Jones ei hun, yn dweyd iddo fod mewn cysylltiad â'r Methodistiaid, ond i'w gyfeillion ei wawdio nes iddo eu gadael.