Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

agwedd foesol a deallol y Gogledd. Bywyd newydd oedd hwn a gododd, nid o ddeall na gwladgarwch y llawer, ond o gydwybod yr ychydig. A methaf weled ei fod o un gwahaniaeth o ba safle nac o ba raddau eu dysg; canys gradd, ac unig radd diwygiwr, yw enaid wedi ei danio. Ystyried cyflwr ysbrydol a chymdeithasol y wlad fu'r achos o hono. Nid oedd yr holl weithwyr yn gweithio yn yr un drefn, er ei fod yr un gwaith ac yn cyrraedd yr un amcan. Y modd i wella'r wlad yn ol syniad Gruffydd Jones oedd dysgu'r bobl i ddarllen, a rhoddi iddynt lenyddiaeth grefyddol dda. Credai Harris mewn deffro eu cydwybodau mewn odfaon, a'u diddanu mewn seiadau. A bu odfaon Rowland yn foddion i ddeffro ysbryd defosiynol, a dwyn dynion i brofi blas tangnefedd yr efengyl. Canlyniad diamheuol gweithgarwch y pleidiau oedd codi llawer ar y wlad yn ysbrydol, moesol, a deallol. Nid codi rhagorach beirdd a choethach llenorion a wnaeth y diwygiad; ond mewn amser, creu tô newydd o ddarllenwyr. Beirniadu ac erlid y Diwygiad Methodistaidd a wnaeth beirdd a llenorion goreu yr amseroedd hynny. Nid oeddent yn deall gwerth y gwaith, a gall