Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod eu balchder beth anfantais iddynt ei farnu'n deg. Yr oeddent yn fath o gymdeithas a'i gwaith ar ei chyfer, sef gwerthfawrogi a chadw math neilltuol o farddoniaeth a llenyddiaeth, ac ystyrient hwy, fel yr offeiriaid, "y cyffro newydd" fel newydd beth afreolaidd ac annuwiol. Llenyddiaeth y Diwygiad oedd Holwyddoregau Gruffydd Jones, gweithiau John Bunyan, "Patrwn y Gwir Gristion," "Llyfr y Tri Aderyn," yng nghyd a llyfrau da eraill, y rhai yn bennaf oedd gyfieithiadau o'r Saesneg. Er i Williams Pant y Celyn ddwyn i arfer fesurau newyddion a barddoniaeth newydd yn ei emynnau, parhau i ganu'r mesurau carolau anwastad eu cyhyrau, a cheisio efelychu Huw Morus, a wnaeth y beirdd bach a ymnoddent o dan gysgodion eu rhagorach. Pa fodd na welodd Lewis Morris werth Holwyddoregau Gruffydd Jones ac emynnau Williams sydd hollol anesboniadwy. Yr unig gyfathrach fu rhwng y ddwy blaid ydoedd gwaith Rhisiart Morys yn cynorthwyo Peter Williams yn nygiad allan Feibl 1770. A cheisiodd y Prydydd Hir, yn fwriadol neu anfwriadol, greu rhagfarn ym meddwl Rhisiart Morys yn erbyn Peter Williams, pan yr ysgrifenna,—