Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y Pedr Williams yna sydd yn argraffu y Beibl yng Ngharfyrddin, nid yw meddynt i mi yng Ngharedigion, ond ysgolhaig sal a phur anghyfarwydd yn y Gymraeg. Un o gynghorwyr, neu ddysgawdwr y Methodistiaid ydyw."[1]

"Am y Beibl Cymraeg â Nodau. y mae arnaf ofn na ddaw byth allan, ac nad yw'r dyn ychwaith ag sydd yn cymmeryd y gorchwyl yn llaw gymhwys i'r gwaith. Ei enw yw Peter WilIrams: un o'r Methodyddion ydyw. Ni fedr ddim iaith iawn, na'i hysgrifenu chwaith, megys y mae rhai llyfrau a ysgrifenodd yn tystio."[2]

Mae'r uchod, mewn un wedd, yn feirniadaeth deg, gyson a'r dystiolaeth oedd gerbron; oblegid yr oedd Peter Williams wedi cyhoeddi cyn hyn lyfr, nad oedd fawr gamp ar ei Gymraeg, na chysondeb yn ei orgraff. Nid ffrwyth barn, ond rhagfarn, oedd ei alw yn un "o'r Methodyddion." Pa wahaniaeth o ba "yddion" yr oedd, os ceid trwyddo argraffiad o'r Beibl at wasanaeth gwlad ddifeiblau? Er y darogan, profodd ei hun gymhwysach nag y syniodd y Prydydd Hir am dano; canys daeth ei Feibl allan ogystal ei ddiwyg, a dweyd y lleiaf, a'r Beiblau a'i blaenorodd. Ac erbyn hyn,

  1. Llythyr 35, Gorff. 22ain, 1767.
  2. Llythyr 27, Chwef. 4ydd, 1767.