Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae wedi dod yr argraffiad mwyaf poblogaidd o unrhyw argraffiad ar wahan i argraffiadau'r Gymdeithas Feiblau.

Amlwg yw na ddylanwadwyd ar Ddafydd Jones gan y Diwygiad mewn unrhyw fodd. Canodd lawer o ganiadau crefyddol, ond yr oeddynt oll yn null y carolau, neu ynteu yn ol iaith a meddwl

"Canwyll y Cymry." Gall mai'r esboniad yw ei berthynas, o'r fath ag oedd, â'r Morrisiaid, a'u dylanwad arno, yn neilltuol felly ei syniadau uchel am Gymdeithasau Llundain, a'i ymroddiad i weithio yn y cyfeiriad a roddasant hwy i weithgarwch dros y genedl.

Yn cydfyw ac yn cydweithio â'r Deffroad crefyddol, yr oedd math o ddeffroad cenedlaethol a gwladgarol. Math o ryddfrydiaeth grefyddol, a'i hwyneb ar gymdeithas i'w chreu o newydd o ran ysbryd a threfniadau crefyddol, oedd un; tra'r llall yn ddeffroad ceidwadol, cadw a mawrygu hen geinion llenyddol oedd ei hanwyl-waith.

Pobl yn edrych yn ol oeddent, gan sugno asbri i'w calonnau o feddwl a bri'r gorffennol. Yn 1751 sefydlwyd cymdeithas enwog y Cymrodorion, gwaith yr hwn yn bennaf oedd codi o'r tyrrau llwch bob peth Cymreig