Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn barddoniaeth, llenyddiaeth, ag hanesiaeth. Yr un modd yn 1771, sefydlwyd cymdeithas y Gwyneddigion, a'i hamcan hithau oedd eu cyhoeddi, er na wiriodd ei hamcan erioed.

Yma ceisiwn nodi safle Dafydd Jones, fel llenor neu fardd, pa un bynnag o'r cymeriadau hyn a haeddai. Fel y nodasom, ni fu un cysylltiad rhyngddo â'r Diwygiad na'i lenyddiaeth. Yr oedd lawer amgenach yn ei waith a'i gysylltiadau na baledwyr y ffair a'r gwylmabsant. Eto yr oedd pob peth a gyfansoddodd ac a gyhoeddodd islaw cael eu noddi gan y cymdeithasau uchod. Er fod ei waith felly, yr oedd efe ei hun yn aelod o'r cymdeithasau hyn. Yn rhagymadrodd y "Cydymaith Diddan" dywed,—

"Y mae yn Llundain Gymdeithas o Gymry a elwir Cymmrodorion, ac yn y wlad hefyd, yn coleddu Brithoneg: ac y mae ymbell Bapur Crynhodeb, sef y Clwb yn Gymraeg."

Mewn nodiad ar waelod y ddalen ceir,—

"Fe ddarfu iddynt fy enwi yn un ohonynt, y gwaelaf o'r cwbl."

Mae'r nodiad hwn yn hollol gywir, oherwydd ceir ei enw yn rhestr gyntaf Cym-