Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deithas y Cymrodorion, yr hon gyhoeddwyd yn 1762.[1] Pa fath bynnag fardd neu lenor ydoedd, yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion, cymdeithas yr eiddigeddodd Lewis Morris gymaint dros ei hurddas, cymdeithas nad oedd holl dalent Goronwy Owen ddigon o iawn drosto yng ngolwg Llywelyn Ddu am iddo ysmocio yn un o'i chyfarfodydd. Fel y cyfeiriasom eisoes, ei barchu a'i amharchu bob yn ail a wnaeth Lewis Morris, a hynny yn hollol anheg rai gweithiau. Wrth ysgrifennu at Edward Richard, Ystrad Meurig, geilw Lewis Morris y Flodeugerdd yn,—

"Un o erthyliaid basdardaidd Dafydd Jones, y ffwl i borthi ei wagedd ei hun, a lanwodd y Llyfr a'i brydyddiaeth ddiles ei hunan."

Mae'r donioldeb gwrachiaidd hwn, nid yn unig yn anheilwng o Lewis Morris, ond yn anghywir fel ffaith a beirniadaeth. Oblegid, o'r 189 o ddarnau barddonol a geir yn y Blodeugerdd, ni cheir ond y nifer cymedrol o 9 o waith Dafydd Jones. Os diles ei farddoniaeth, gallasai longyfarch ei hun yn wyneb ei feirn-

  1. Additional MSS. 15059.